CROESO I WEFAN ‘CYMDEITHAS HANES CWM CYNON’
SWYDDOGION Y GYMDEITHAS:
Llywydd: Arglwydd Aberdâr
Is-lywydd:
Mrs. Tydfil Thomas, O.B.E., J.P., M.A.
Ysgrifennydd: Heb ei lenwi
AM Y GYMDEITHAS:
Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1971 i hyrwyddo astudiaeth hanes Cwm Cynon; i gasglu ac arddangos tystiolaeth o’r hanes hwnnw ac i gyhoeddi gwaith ymchwil iddo er budd trigolion yr ardal a phawb fydd yn ymddiddori yn ei gorffennol.
Ei Llywydd Anrhydeddus yw’r pumed Barwn Aberdâr. Ei his-lywydd yw Mrs Tydfil Thomas, O.B.E., J.P., (Aberdâr). Rhoddodd y ddau wasanaeth neilltuol i’r Gymdeithas o fwy na thrideg blwyddyn yr un. Etholir y swyddogion eraill a’r pwyllgor gwaith fesul blwyddyn.
Mae’r Gymdeithas yn cyfarfod ar drydedd nos Iau pob mis rhwng Medi a Mehefin. Weithiau, cynhelir cyfarfod cymdeithasol yng Ngorffennaf. Ni chynhelir cyfarfod ym mis Awst.
Cynhelir y cyfarfodydd misol yn Amgueddfa Cwm Cynon, Aberdâr
am 7.00 pm (oni threfnir fel arall). Mae’r amgueddfa cyferbyn â Tesco ac
mae digon o le parcio am ddim gerllaw.
Y tâl aelodaeth blynyddol yw £12-00 . Croesewir aelodau newydd
yn gynnes bob amser.
Gwahoddir siaradwr pob mis i annerch y Gymdeithas ar destun hanesyddol,
boed hynny’n bwnc lleol neu’n bwnc o ddiddordeb ehangach. Cyhoeddir
Rhaglen Fisol y cyfarfodydd pob blwyddyn ym Medi. Mae hon ar gael i bob aelod
ac arlein (gw. y dudalen hafan).
Cynhelir ein cyfarfodydd yn Saesneg, ond cydnabyddir y Gymraeg ar bob cyfle posib a chroesewir ymholiadau ynddi. Bydd y Gymdeithas yn gwneud ei gorau bob tro i ymateb yn Gymraeg i ymholiad o’r fath.
Cyhoeddir ers 1984 gylchlythyr chwarterol o’r enw Hanes. Fe’i
dosberthir am ddim i’r aelodau a chodir tâl bychan i’r cyhoedd.
Enw prif gyhoeddiad y Gymdeithas yw Old Aberdare ac fe’i cyhoeddir yn
achlysurol. Erbyn hyn (gaeaf, 2021), cyrhaeddodd ei unfed rhifyn ar ddeg.
Ceir manylion llawn cyhoeddiadau eraill y Gymdeithas wrth ddychwelyd
at y dudalen hafan a gwasgu’r botwm priodol yno.
CYSYLLTU Â’R GYMDEITHAS:
Croesewir ymholiadau ynghylch aelodaeth a gweithgaredd y Gymdeithas. Gellir
cysylltu â hi wrth ddychwelyd at y dudalen hafan.
BRASLUN O HANES CWM CYNON:
Mae i Gwm Cynon hanes hynod sy’n rhan hanfodol o hanes Cymru ar hyd yr oesau. Ni ellir cynnig yma ond crynodeb o uchelfannau’r hanes hwnnw. Er enghraifft:
- tua 800 C.C: gollyngwyd rhai o greiriau haearn ac efydd pwysicaf Cymru i ddyfroedd Llyn Fawr ger Y Rugos, i’w hail-ddarganfod ym 1910-11.
- tua 75 O.C: sefydlwyd caer Rufeinig ar Dwyn-y-Briddallt, yn uchel ar y grib rhwng Cwmaman a’r Rhondda Fach.
- tua 600 O.C: sefydlwyd Eglwys Wynno, hen ganolfan Grisnogol plwyf canoloesol Llanwynno (ardaloedd Aberpennar ac Ynys-y-bwl).
- tua’r un pryd: sefydlwyd Eglwys Gynog, hen ganolfan grefyddol plwyf canoloesol Penderyn (ardaloedd Penderyn, Cwm-taf a rhannau helaeth o Hirwaun).
- tua 1190: sefydlwyd Capel Anwes Ioan Fedyddiwr ym mhentref Aberdâr, a dyfodd yn eglwys y plwyf wreiddiol yr ardal.
- 1203: ceir y sôn cyntaf am fodolaeth Aberdâr (yn un o ddogfenni Abaty Margam).
- 1570: mae cofnodion maenorol ieirll Penfro yn dechrau crybwyll manylion yr ystadau a’r ffermydd lleol.
- tua 1600: canodd bardd anhysbys o’r fro un o gerddi rhydd Cymraeg pwysicaf y cyfnod modern cynnar, Coed Glyn Cynon, gan grybwyll dyfodiad y diwydiant haearn i gymoedd de Cymru a dechrau difwyno’u glendid naturiol.
- 1663: ceir cyfeiriad mewn dogfen gyfreithiol at gloddio am lo (ar raddfa fechan ar y pryd) yn ardal Cwm-hwnt, ger Pen-y-waun.
- 1738: ceir sôn am y person cyntaf i gael ei ladd dan ddaear pan fu farw Daniel Simon dan gwymp y to yn lefel Bryn Defaid, Llwytgoed.
- 1751: sefydlwyd yr Hen Dŷ Cwrdd, capel anghydffurfiol hynaf y Cwm, yn Heol-y-felin (Trecynon) allan o hen gynulleidfa ymneilltuol Blaen-cannaid (c.1650) a Chwm-y-glo (1689).
- 1757: sefydlwyd gwaith-haearn Hirwaun, ac yna gweithfeydd Llwydcoed (1799); Y Gadlys (1827) ac Aberaman (1845).
- 1772-96: bu Edward Evan, gwr y defnyddiodd Iolo Morganwg ei enw i gyfiawnhau creu Gorsedd Beirdd Ynys Brydain (1789), yn weinidog yr Hen Dŷ Cwrdd, a Tomos Glyn Cothi (fu yn y carchar am foli’r Chwyldro Ffrengig) yn olynydd iddo rhwng 1811-33.
- 1790: torrwyd Camlas Aberdâr fel cangen o Gamlas Morgannwg (a redai rhwng Caerdydd a Merthyr Tudful).
- 1793: cafwyd deddf seneddol yn caniatáu creu ffordd dyrnpeg newydd i fyny Cwm Cynon at Aberdâr a thu hwnt.
- tua 1825: ceir sôn am lofa’r Gadlys (ar ffurf lefelau a drifftiau bychain mae’n debyg) a ddatblygwyd gan Matthew Wayne (sylfaenydd gwaith haearn Y Gadlys – gw. dan 1757).
- 1831: dechreuodd Terfysgoedd Merthyr gyda gweithwyr haearn Abernant yn croesi’r mynydd i Ferthyr a gweithwyr Hirwaun yn codi’r Faner Goch (am y tro cyntaf ym Mhrydain, fe gredir) cyn gorymdeithio yno; un o arweinwyr blaenaf y Terfysgoedd oedd Lewis Lewis (Lewsyn yr Heliwr) o ardal Penderyn.
- 1834: Crëwyd ‘Undeb Deddf y Tlodion Merthyr Tydfil’ (gan gynnwys Cwm Cynon) a Bwrdd Gwarcheidwaid i’w reoli a Thloty (ym Merthyr) i gartrefu amddifaid y fro. Dyma darddiad llywodraeth leol yr oes fodern yng Nghwm Cynon a thu hwnt.
- 1837: suddwyd pwll glo dwfn cyntaf y Cwm (ac un o’r cynharaf yng Nghymru) yn Abernant-y-groes, Cwmbach, gan Matthew a Thomas Wayne (perchnogion gwaith-haearn Y Gadlys).
- 1840: suddodd Thomas Powell o’r Gaer, Casnewydd bwll-glo dwfn Tir-ffounder (neu Hen Ddyffryn) Cwmbach, gan osod seiliau cwmni mwyaf maes-glo de Cymru ddydd a ddaw, sef Powell Duffryn (sic).
- 1843: suddwyd pyllau dwfn arloesol eraill gan William Thomas (mab Robert a Lucy Thomas) yn Llety-siencyn; gan David Davis ym Mlaen-gwawr; a Thomas Powell, Y Gaer, yn Middle Dyffryn (rhwng gwaelod Cwmbach a Chwmpennar).
- 1844: suddwyd pwll dwfn arall o’r enw Upper Dyffryn (nid nepell o Dir-ffounder) yng Nghwmbach gan Thomas Powell, Y Gaer,
- 1845: suddodd Crawshay Bailey bwll glo dwfn Aberaman; suddodd David Williams (Alaw Goch) bwll-glo dwfn Ynys-cynon. O hyn ymlaen tan tua’r 1880au agorwyd nifer helaeth o byllau glo dwfn a lefelau llai trwy’r Cwm i gyd (gw. Cynon Coal, a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas ym 2001 am fanylion llawnach).
- 1846: agorwyd Rheilffordd Aberdâr fel cangen (mwy neu lai) o’r Taff Vale Railway rhwng Caerdydd a Merthyr Tudful; dyma’r rheilffordd gyntaf i fyny Cwm Cynon tuag at Aberdâr.
- 1851: agorwyd y Vale of Neath Railway o gyfeiriad Abertawe mor bell ag Aberdâr ac o hynny ymlaen i Ferthyr.
- 1853: cyhoeddwyd Adroddiad T.W. Rammell i gyflwr iechyd trigolion plwyf Aberdâr o ganlyniad i’r geri marwol fu ar led yno ym 1849-50.
- 1854: sefydlwyd Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Aberdâr o ganylniad i dwf yn niwydiant a phoblogaeth yr ardal; dyma’r cam pwysig nesaf wrth greu fframwaith o lywodraeth leol seciwlar a modern yn y fro.
- 1854: cyhoeddwyd Gardd Aberdâr, sy’n cynnwys ysgrifau hanesyddol cyntaf y fro, gan nodi gwrthdaro’r hen fyd amaethyddol â’r oes ddiwydiannol newydd; fe’i dilynwyd gan Llanwynno (1888) a Hanes Penderyn (1905 a 1922).
- tua 1855: dyma gychwyn cyfnod pan fu Aberdâr yn un o brif ganolfannau argraffu Cymru (adeg a barodd tan 1934 a thranc Tarian-y-Gweithiwr, papur wythnosol Cymraeg olaf de Cymru).
- 1856: cwblhawyd Rheilffordd Dâr-Aman fel cangen o’r V.N.R.
- 1857: cafwyd Deddf Amgau Comin Hiwaun gan osod rhannau helaeth o’r hen gomin o’r neilltu at greu Mynwent Gyhoeddus Aberdâr dan ofal Bwrdd Claddu newydd; agrowyd y fynwent yr un flwyddyn.
- 1859: cynhaliwyd y Gymanfa Ganu gyntaf (fel y daethom i’w ‘nabod) yn y Temperance Hall a chapel Bethania, Aberdâr).
- 1861: cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gydnabyddedig gyntaf yn Neuadd y Farchnad, Aberdâr dan nawdd David Williams (Alaw Goch), perchennog pyllau Ynys-cynon, Treaman, Merthyr-Dâr a DeepDyffryn). Daeth yr Eisteddfod Genedlaethol yma eto ym 1885 a 1956.
- 1865: hwyliodd y Mimosa o Lerpwl i Batagonia mewn ymgais i sefydlu gweriniaeth annibynol Gymraeg yn hemisffêr y de gyda bron i 40% o’r fintai’n hanu o Gwm Cynon a Merthyr Tudful.
- 1867: crëwyd y Bwrdd Iechyd cyntaf ar gyfer Aberpennar yn benodol.
- 1868: etholwyd Henry Richard yn aelod seneddol Rhyddfrydol Aberdâr a Merthyr o’i enwebu yn Aberdâr.
- 1869: agrowyd Parc Cyhoeddus Aberdâr dros rannau o hen gomin Hirwaun.
- 1871-72: sefydlwyd Bwrdd Addysg Aberdâr: cam pwysig arall yn natblygiad llywodraeth leol yr ardal.
- 1872-73: aeth Griffith Rhys Jones (Caradog) â Chôr Mawr Deheudir Cymru i’r Palas Grisial yn Llundain, gan ddechrau’r broses araf o adennill hunan-barch i’r Cymry yn dilyn Brâd y Llyfrau Gleision (1842) ac oes o wawdio’u hiaith a’u cymeriad.
- 1874-75: cafwyd anghydfod mawr, a streic hir a chaled yn yr ardal a roddodd hwb i dwf undebaeth llafur.
- 1888-95: bu Henry Austin Bruce (y Barwn Aberdâr cyntaf) yn llywio pwyllgorau a arweiniodd at sefydlu system addysg ganolradd Cymru (1889) a Phrifysgol Cymru (1895). Ef oedd ei changhellor cyntaf.
- 1895: enillodd Arthur Linton, Aberaman, bencampwriaeth y byd mewn seiclo.
- 1896: crëwyd dau gyngor tref i weinyddu llywodraeth leol: y naill yn Aberdâr (Abercwmboi i Hirwaun) a’r llall yn Aberpennar (Glyn-boi hyd at Ynys-y-bwl.
- 1898: cafwyd streic galed arall ar draws y maes glo a roddodd fod i’r South Wales Miners’ Federation.
- 1900: etholwyd Keir Hardie fel aelod seneddol parhaol cyntaf y Blaid Lafur ym Mhrydain dros ardaloedd Aberdâr a Merthyr.
- 1905: sgoriwyd y cais a enillodd y gêm ryngwladol enwog rhwng Cymru a Seland Newydd yng Nghaerdydd gan (Dr) Teddy Morgan a anwyd yn Abernant.
- 1910: cyfnod y Block Strike a therfysgoedd ymysg y glöwyr yn lleol (yn arbennig yn ardal Aberaman).
- 1922: sefydlwyd cangen gyntaf Urdd Gobaith Cymru yn Abercynon.
- 1926: cyfnod y Streic Gyffredinol (a barodd am wythnos) a streic y glöwyr (a barodd am fisoedd lawer); dyma ddechrau cyfnod o ddiweithdra, cyni ac ymfudo mawr yn hanes maes-glo de Cymru.
- 1928: sefydlwyd cangen gyntaf Plaid Cymru y tu allan i Sir Gaernarfon yn festri capel Bethesda, Abercwmboi.
- 1930au: y Dirwasgiad Mawr ym maes-glo’r de.
- 1938: dyfodiad ffatri Aberdare Cables i Drecynon fel cychwyn proses i ddargyfeirio cyflogaeth yr ardal (a mannau tebyg yn ne Cymru) oddi wrth y diwydiant glo.
- 1947: gwladolwyd y diwydiant glo a dechreuodd ei grebachu hir nes bod un pwll glo dwfn ar ôl yng Nghymru erbyn 1995, sef pwll Y Twr, Hirwaun (gw. 2008).
- 1949: sefydlwyd Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yng Nghwmdâr: yn un o dair ysgol o’r fath a sefydlwyd y flwyddyn honno yn dilyn sefydlu’r gyntaf yn Llanelli ym 1947; dyma’r tro cyntaf i’r Gymraeg gael ei defnyddio fel cyfrwng swyddogol addysg ers cyn 1536.
- 1950: ysgrifenwyd Awdl Foliant y Glöwr, un o awdlau enwocaf a mwyaf poblogaidd yr 20G gan y Parch. Gwilym Tilsley tra’n weinidog yn Aberdâr.
- 1965: cauwyd pwll glo Fforchaman, Cwmaman: y pwll dwfn olaf i fod ar waith o fewn hen blwyf Aberdâr.
- 1974: diddymwyd cynghorau tref Aberdâr ac Aberpennar gan greu awdurdod unedig, sef Cyngor Bwrdeisdref Cwm Cynon.
- 1974: streic fawr ymysg glöwyr yr ardal a’r maes glo.
- 1984-85: streic fawr olaf y glöwyr, yn lleol a thrwy Brydain, yn argoeli bod cyfnod pwysig yn hanes diwydiannol yr ardal a’r wlad yn dirwyn i ben. .
- 1988: cauwyd pwll glo Abercynon: y pwll dwfn olaf i fod ar waith o fewn hen blwyf Llanwynno.
- 1996: diddymwyd Cyngor Bwrdeisdref Cwm Cynon gan greu awdurdod unol (tref a sir) Cyngor Rhondda Cynon Taf; dyma’r tro cyntaf mewn mwy na chanrif i Gwm Cynon fethu â bod yn ganolfan llywodraeth leol.
- 2008: cauwyd pwll glo Y Twr, Hirwaun: pwll glo dwfn olaf Cwm Cynon a Chymru gyfan.